Cyflwyniad
Prosiect newydd Sea Watch Foundation yw Er Llesiant ein Môr, wedi ei sefydlu ym mis Ebrill 2023 yn Ystad Bodorgan, De-Orllewin Ynys Môn. Mae ein lleoliad cyfleus ar Aber Malltraeth yn golygu ein fod wedi lleoli yn ein ardal ffocws, sydd yn rhoid mynediad cyfleus i’r pentir lleol ble mae llawer o mamaliaid morol wedi cael ei gweld, yn ogystal a rhoid mynediad i’r traeth ble mae gennym gwch wedi angori yn ystod y tymor.
Nod y prosiect yw i deallt ysglyfaethwyr pennaf a chynefinoedd morol De-Orllewin Ynys Mon a Bae Caernarfon drwy ddefnyddio data presennol ar chynefinoedd a rhywogaethau yr ardal, yn ogystal a casglu data ychwanegol i ddim ond ddeall yr ysglyfaethwyr pennaf ond hefyd cymunedau gwely’r môr a physgod yr ardal yn well. Yn ystod y prosiect, bydden yn cynnal ymchwil ein hunain drwy arolygon o’r tir ac o gychod a yn hybu gwyddoniaeth dinasyddion drwy gynnwys grwpiau lleol, cymunedau, ymwelwyr i’r ardal, a rhanddeiliaid fel rhan o’r prosiect. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Syr George Meyrick o Ystad Bodorgan ag hefyd gan yr Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi ei weinyddu gan y Cyngor Gweithredu Gwirdoffoli Cymru (CGGC).
Cynefinoedd ac ecoleg o Bae Caernarfon a DO Ynys Mon
Mae cromlin raddol arfordir Bae Caernarfon yn darparu lloches bas o amodau aflafar Môr Iwerddon, ac yn darparu cynefinoedd addas i ystod eang o fflora a ffawna. Mae’r bae yn cynnwys ystod eang o wahanol gynefinoedd morol gan gynnwys twyni tywod, morfa heli, a chlogwyni creigiog. Mae dŵr y bae yn gyfethog mewn maetholion, sy’n denu llawer o fywyd gwyllt morol o’r mamaliaid morol i rhywogaethau amrywiol o bysgod. Mae pwysigrwydd y cynefinoedd yma wedi ei sefydlu o’r mewnblaniad o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a llawer o Safleodd o Ddiddordeb Gwyddonol Cyhoeddus (SoDdGC).
Mae Bae Caernarfon yn garterf i lawer o rhywogaethau gwahanol o lefelau troffic gwahanol. Mae’r cynefinoedd a gwaddodion gwahanol yr ardal yn ei wneud yn ddelfrydol i ystod eang o rhywogaethau o mamaliaid morol, siarcod a morgathod, rhywogaethau benthig, ag wrth gwrs llawer o adar môr. Ein nod yw i ddeall y cymunedau yma drwy gasglu data presennol ac i archwylio yr opsiwn o gynllun rheolaeth morol ag adferiad cynefinoedd a arweinir gan y gymuned.
Dulliau adnabod ffotograffau
Mae’r ddull adnabod ffotograffau, hefyd yn cael ei adnabod fel ‘photo ID’, yn ddull rydym yn defnyddio i adnabod unigolion o ddolffiniaid. Mae gan unigolion crafiadau a marciau penodol ar eu esgyll dorsal ac eu cyrff o rhyngweithiadau cymdeithasol, hela, ac yn anffodus o ergydion gan gychod. Wrth dynnu lluniau o rhain, gallwn adnabod unigolion a cadw cofnod o ble maen’t wedi bod, efo pwy, beth maen’t wedi boid yn gwneud, ac amcangyfrif niferoedd poblogaethau.
Gwaith estyn allan
Mae gweithio gyda’r cymuned yn agwedd pwysig iawn o’r prosiect newydd yma. Y nod cyffredinol yw i sefydlu dull rheoli morol a arweinir gan y gymuned drwy weithio’n agos gyda’r cymuned lleol, ymwelwyr i’r ardal, a rhanddeiliaid a cael nhw i fod yn rhan o’r prosiect. Drost y misoedd nesaf, rydym yn gobeithio cynnal llawer o sesiynau hyfforddi fel fod pobl yr ardal yn gallu dysgu sut i gynnal arolwg o’r anifeiliaid yma mewn ffordd effeithiol. Rydym hefyd yn gobeithio creu dau gyfle ‘Wildlife Champion’ ble rydym yn gobeithio hyfforddi dwy person ifanc yr ardal mewn tywysydd bywyd gwyllt a datblygiad busnes.
Yn ystod y flwyddyn cyntaf rydym wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau gyda grwpiau a’r cymuned. Enghraifft yw ‘National Whale and Dolphin Watch’ 2023, sef digwyddiad o wythnos ble rydym yn gobeithio i gael ‘llun’ o’r holl welediadau o mamaliaid morol yn y DU. Yn ystod yr wythnos yma wnaethom gynnal arolygon o’r tir gyda’r cyhoedd, a sesiwn cerfluniau tywod o mamaliaid morol ar lan y môr Aberffraw. Roedden ni hefyd yn bresenol yn Conservation Festival Cymru a rhedwyd gan Sŵ Môr Ynys Môn, ble roedd genym ni stondin gyda llawer o weithgareddau i’r plant. Ar ôl cyflogi Swyddog Allgymorth rhan amser rydym wedi cychwyn ymweld ag ysgolion lleol yr ardal i sôn wrth y disgyblion am yr holl gynefinoedd morol sydd o gwmpas nhw ar yr Ynys. Rydym hefyd wedi rhoid cyflwyniad i gymdeithasau Endeavour (Gwyddorau Eigion) a Sŵoleg Prifysgol Bangor, gan sôn wrth nhw am ein gwaith a sut i gynnal arolwg mamaliaid morol llwyddianus, ac hefyd mynd a nhw allan i’r maes i gynnal arolwg o’r lan i nhw gael defnyddio y sgiliau maen’t wedi dysgu gan ni. Drost y misoedd nesaf, rydym yn cynllunio i ddatblygu y cyfran yma o ein prosiect drwy gysylltu a gweithio grwpiau a cymunedau lleol.
Y tîm
Mae’r tîm yn cael ei rhedeg gan ein Rheolwr Prosiect, Jenny Bond, sy’n cael cymorth gan Cynorthwydd Ymchwil ac Interniaid a chwech Intern Ymchwil. Mae’r gwaith o estyn allan i’r gymuned yn cael ei rheoli gan ein Swyddog Allgymorthl, Elan Jones, sy’n intern o flwyddyn cyntaf y prosiect.
Yn ystod yr haf mae’r interniaid yn rhan o pob agwedd o’r prosiect, fel arolygon, gwaith swyddfa, ymweliaidau ysgolion, a sgyrsiau gyda rhanddeiliaid a grwpiau cymuned. Mae ein interniaid yn dod o led led y byd, gyda’r rhan fwyaf yn dod o gefndir addysg morol ac yn gobeithio cael mwy o brofiad a creu cysylltiadau o fewn y diwydiant. Yn ystod y flwyddyn cyntaf o’r proseict cawsom pedwar grwp o interniaid yma am 5 wythnos yr un o fewn 20 wythnos. Roedd ein dwy Cynorthwyydd Ymchwil ag Interniaid (Swyddog Ymchwil ac Allgymorth yn flaenorol) yma am 10 wythnos yr un. Gyda paratoadau am tymor 2024 o’r rhaglen interniaeth yn mynd ymlaen, rydym yn edrych ymlaen i groesawu pump grwp arall o interniaid blwyddyn nesaf. Am fwy o wybodaeth am ein interniaeth Ynys Môn a sut i fod yn rhan o ein gwaith, ymwelwch a’n tudalen interniaeth.