Interniaeth Ynys Mon

Mae’r Sea Watch Foundation yn chwilio am Interniaid Ymchwil ac Cynorthwyydd Ymwchil ac Interniaid ar gyfer tymor 2024 yn ei swyddfa maes newydd ar Ynys Môn, Gogledd Cymru, i gymryd rhan mewn cynllun gwyddoniaeth newydd a chyffrous i ddinasyddion er mwyn cynnwys cymunedau lleol ac ymwelwyr yn y gwaith o arsylwi a chofnodi mamaliaid ac adar morol fel rhan o brosiect cadwraeth morol. *** Y DIWEDDARAF *** Mae gennym 3 lle ar ol ar gyfer cyfnod 1 (10fed o Ebrill – 19ain o Fai) YN UNIG, gwelwch isod am fanylion o sut i ymgeisio.

Interniaid Ymchwil

Bydd y swydd hon yn addas i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mawr mewn cadwraeth forol ac sy’n cydnabod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd morol drwy ymgysylltu â’r cyhoedd o bob grŵp oedran. Gall y swydd hon fod yn amrywiol iawn, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu delio â thasgau amrywiol, o allgymorth cyhoeddus i arolygon ar gychod a chasglu data gwyddonol. Maent yn cael eu hannog i gynnal mentrau gyda gweithgareddau addysg ac allgymorth yn y rhanbarth sydd, oherwydd ei harddwch naturiol, yn derbyn nifer fawr o ymwelwyr yn ystod yr haf.

Bydd yr interniaid yn gyfrifol am y dyletswyddau canlynol:

  1. Codi proffil y Sea Watch Foundation yn lleol (trefnu digwyddiadau, siarad â’r cyhoedd, cysylltu â rhanddeiliaid lleol);
  2. Cynnal arolygon o famaliaid morol ac adar môr yn ardal de-orllewin Ynys Môn a Bae Caernarfon, gan wylio o’r tir a chymryd rhan mewn arolygon ar gychod;
  3. Ymgysylltu â chymunedau lleol, annog a hyfforddi gwyddonwyr sy’n ddinasyddion i gasglu data am famaliaid morol ac adar môr;
  4. Hyrwyddo a threfnu gweithgareddau allgymorth ac addysg digwyddiad y National Whale and Dolphin Watch.
  5. Cymryd rhan mewn cyflwyniadau a chreu gweithgareddau i’w cyflwyno i ysgolion / grwpiau lleol, yn ogystal â defnyddio ein sgyrsiau arbenigol mewn digwyddiadau lleol;
  6. Helpu i greu deunyddiau addysgol / hyrwyddo (posteri, arddangosfeydd, taflenni);
  7. Cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi yn Ynys Môn a Gwynedd;
  8. Cynrychioli Sea Watch mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Ynys Môn a Gwynedd;
  9. Darperir hyfforddiant a goruchwyliaeth gan staff yr prosiect drwy gydol arhosiad yr interniaid.

Bydd y tymor maes yn rhedeg o fis Ebrill i fis Hydref 2024 ac, ar gyfer Interniaid Ymchwil, mae wedi cael ei rannu’n gyfnodau o 5 wythnos. Lleolir yr interniaid yn Ystâd Bodorgan, Ynys Môn. Bydd llety’n cael ei ddarparu, heb rent, mewn tŷ a fydd yn cael ei rannu â’r interniaid eraill a’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Allgymorth. Bydd yr interniaid yn gyfrifol am eu costau teithio a byw eu hunain, gan gynnwys biliau cyfleustodau (£40 yr wythnos).

Cyfnodau Interniaid Ymchwil ar gyfer haf 2024:

Cyfnod 1:  10 Ebrill – 19 Mai ***3 LLE AR OL***

Cyfnod 2:  22 Mai – 30 Mehefin ***LLAWN***

Cyfnod 3:    3 Gorfenhaf – 11 Awst ***LLAWN***

Cyfnod 4:  14 Awst – 22 Medi ***LLAWN***

Cyfnod 5:  25 Medi – 1 Tachwedd ***LLAWN***

Sgiliau / cymwysterau pwysig

Hanfodol:

  • diddordeb cryf mewn cadwraeth ac addysg forol
  • personoliaeth allblyg, hyder
  • sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol
  • y gallu i weithio a byw gyda gwirfoddolwyr eraill mewn lleoliad wedi’i ynysu
  • rhaid i interniaid feddu ar flaengaredd, cymhelliant, y gallu i ddod â’u syniadau a’u personoliaethau i’r swydd, a’r gallu i feddwl ar eu traed
  • ymrwymiad cryf i waith gwirfoddol
  • gweithio’n annibynnol, mewn modd trefnus a dibynadwy a rheoli llwyth gwaith amrywiol
  • y gallu i gyd-dynnu’n dda ag eraill mewn tîm bach ac mewn llety a rennir
  • dylai interniaid gynrychioli SWF yn broffesiynol ar bob achlysur

Dymunol:

  • cefndir mewn bioleg forol / gwyddoniaeth amgylcheddol neu debyg
  • diddordeb cryf a rhywfaint o wybodaeth am famaliaid ac adar morol Prydain
  • sgiliau TG da (pecyn Office)
  • parodrwydd i weithio oriau hir, weithiau yn yr awyr agored, mewn tywydd cyfnewidiol
  • eich cludiant eich hun (telir costau teithio o fewn y prosiect)
  • y gallu i siarad Cymraeg

Rydym yn croeso ceisiadau gan ymgwiswyr rhyngwadol ond cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd i wneud yn siwr fod gofynion visa’s yn cael eu bodloni ac rydym yn gofyn i ymgeiswyr uwcholeuo ei ospwin visa dewisedig yn ei cais. Nodwch fod ni all Sea Watch Foundation noddi ceisiadau.

I ymgeisio:
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn nodi unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych, gan nodi’r cyfnod(au) y byddai’n well gennych wirfoddoli ar eu cyfer, yn ogystal â manylion cyswllt dau ganolwr, at:

Jenny Bond (Rheolwr y Prosiect) – jenny.bond@seawatchfoundation.org.uk

Yr Athro Peter GH Evans (Cyfarwyddwr SWF) – peter.evans@bangor.ac.uk

Nodwch “CAIS INTERN YMCHWIL YNYS MÔN” yn y pwnc ar gyfer eich neges

Fydd cyfweliad yr ymgeiswyr yn cael ei gynnal drost Zoom